
Medi ydw i
a fi yw Sylfaenydd MPW Making Places Work
Dwi’n frwdfrydig, yn brofiadol ac yn arbenigo mewn adfywio lleoedd manwerthu. Fel rhan o dîm, rydyn ni’n gweithio’n galed i ddatblygu canolfannau siopa a chreu cymunedau bywiog – ac yn helpu economïau lleol i dyfu.
Fy nod yw cefnogi eich strategaeth
Rwy’n Creu Newid Cadarnhaol
Rwy’n Grymuso Twf
Rwy’n Cyflawni Lleoedd Bywiog a Phrysur
Cleientiaid
Rydyn ni'n adfywio a thrawsnewid lleoedd!
Adfywio Canolfannau Siopa
TYFIANT A PHROFFIDIOLDEB CANOLFANNAU
Mae creu newid yn hanfodol os yw pethau cyffrous am ddigwydd. Drwy weithio gyda mi a’m tîm profiadol yn MPW, byddwch yn elwa o’n degawdau o frwdfrydedd, gwybodaeth ac arbenigedd i’ch helpu i gyflawni trawsnewidiadau hanfodol yn eich canolfannau siopa lleol.
Adfywio Canol Trefi
ADFYWIO A CHREU NEWID CADARNHAOL
Gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector manwerthu a’r economi leol, rydyn ni’n ymwybodol bod pob lleoliad manwerthu yn unigryw a bod ganddyn nhw eu heriau penodol eu hunain. Byddwn yn dangos i chi sut i greu lleoedd sy'n denu pobl i mewn, gan eu hannog i ymweld â chanol trefi gyda’u teuluoedd, a’u defnyddio ar gyfer hamdden a gwaith - mae’n hollbwysig bod angen cynyddu nifer yr ymwelwyr, datblygu canolfannau cynaliadwy a meithrin ymdeimlad o gymuned.
Grymuso ac Ehangu
SICRHAU SGILIAU A HYFFORDDIANT AT Y DYFODOL
Eich ased mwyaf yw eich pobl. Trwy fuddsoddi ynddyn nhw gan ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hyder, rydych chi'n creu rhywbeth pwerus o fewn eich sefydliad. Mae MPW yn cynnig hyfforddiant sgiliau proffesiynol sydd wedi’i deilwra’n arbennig i’ch anghenion chi, ac sy’n mynd i’ch helpu chi i gyrraedd eich nod o fewn y cwmni.
Sut ydym yn gweithio:
Gyda’n profiad eang, mae MPW yn cynnig dull dynamig ac egnïol o fynd i'r afael ag adfywio canolfannau, gan weithio’n agos bob amser â’n cleientiaid i ganolbwyntio ar dri phrif faes:
Diffiniwch eich amcanion i egluro’n union lle’r ydych eisiau, ac angen, mynd – ydyn nhw’n S.M.A.R.T, allwn ni eu mesur?
Dewch o hyd i bob cyfle bosib sydd ar gael ar gyfer sicrhau twf a gwelliannau – yn fewnol ac yn allanol!
Ewch ati i greu cynllun gweithredu strategol y gellir ei gyflawni o fewn yr amserlenni a’r cyllidebau a gytunwyd.
1
2
3
Storïau Llwyddiant MPW
Cynyddu Elw Canolfan Siopa
Miliwn o Ymwelwyr Mewn Diwrnod
Adnewyddiad Dynamig sy’n Creu Elw Sylweddol ar Fuddsoddiad
YMDDANGOSWYD YN
Beth Maen nhw'n ei Ddweud
Jenny Campbell, Entrepreneur Prydeinig a chyn Fuddsoddwr Dragon’s Den y BBC
‘Mae Medi yn entrepreneur proffesiynol a deinamig sydd â’r angerdd a’r awydd i gyflawni canlyniadau. Mae ei dyheadau a’i hegni i adfywio yn dod drwodd ym mhob agwedd ac roedd yn bleser gweithio gyda hi.’
Beth am i ni gael sgwrs am eich prosiect
Cwblhewch y ffurflen i drefnu cyfarfod