MPW – y 90 diwrnod cyntaf
Wel, am dri mis! Newid yn y llywodraeth, ennill 65 o fedalau yn y Gemau Olympaidd, Oasis yn cyhoeddi taith aduniad – ac mae MPW yn lansio gyda bang!
Ond yn gyntaf, croeso i'm blog agoriadol, sef y cyntaf o lawer gan MPW lle byddaf:
• yn rhannu newyddion y diwydiant;
• yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn sy'n digwydd ym myd creu lleoedd a chanolfannau siopa;
• yn eich diweddaru am weithgarwch MPW a pha newidiadau bywiog rydyn ni wedi bod yn eu gwneud i'n trefi a'n dinasoedd poblogaidd.
Mae'r blog cyntaf hwn yn cynnig blas o'r pynciau y byddaf yn eu trafod, ac o'r mis nesaf ymlaen, byddaf yn archwilio’n ddwfn amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â diwydiant.
Dros y 90 diwrnod diwethaf, dwi wedi bod yn brysur yn creu cysylltiadau gwych, gan sicrhau partneriaid newydd a meithrin ymwybyddiaeth o MPW – yr hyn mae’n ei gynnig a’i uchelgeisiau hirdymor – gan fod gen i ambell un ...
Arweiniodd ein lansiad ym mis Mai at sylw rhanbarthol a chenedlaethol yn y cyfryngau. Ers hynny, dwi wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau radio, ymddangos mewn erthyglau newyddion a hyd yn oed recordio podlediad cyntaf erioed MPW. Roedd hwn yn trafod marchnata digidol a'i bwysigrwydd nid yn unig i entrepreneuriaid, ond hefyd i fusnesau'r stryd fawr. Roedd y drafodaeth yn ymdrin â phynciau fel sut mae manwerthwyr yn ymwneud â'u defnyddwyr, sut gallan nhw wneud y mwyaf o'u platfformau digidol, a hefyd pwysigrwydd dadansoddi data er mwyn gwella a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata digidol mwy effeithiol ac ystyrlon. Gan mai dim ond yn Gymraeg y recordiwyd y podlediad, mae croeso i chi wrando pan fydd y podlediad yn cael ei lansio'n swyddogol 😊
Fel y gŵyr llawer ohonoch chi, dwi’n dod o Ynys Môn yng ngogledd Cymru a dwi’n awyddus i greu effaith yn fy milltir sgwâr ac yn Gymraeg. Mae llawer o ymdrechion wedi'u gwneud i ddatgelu cyfleoedd a rhwydweithiau yng Nghymru a dwi’n falch iawn o fod yn gweithio gyda rhai sefydliadau gwych fel Trefi Smart Towns Cymru a Chyngor Dinas Bangor. Yn ogystal â chyflwyno gweminarau i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a busnesau canol trefi yng Nghymru dros y misoedd nesaf – lle byddaf yn trafod 'Gwneud i'r Stryd Fawr Weithio' (cliciwch YMA i gofrestru) – braint yw cael fy ngwahodd i fod yn siaradwr gwadd yn sioe deithiol Trefi Smart Towns Cymru ym Môn y mis hwn. Mae croeso i chi ymuno â'r digwyddiad a chael gwybod mwy am fenter Trefi Smart Towns Cymru.
Ar grwydr…
Mae MPW bob amser yn cadw golwg am brosiectau ysbrydoledig, sy’n nodedig am greadigrwydd y modd y cawsant eu cyflenwi a’u natur soffistigedig – a gan fy mod wedi bod o gwmpas y wlad mewn cerbyd, trên ac ar droed dros yr ychydig fisoedd diwethaf, roeddwn yn meddwl y byddwn yn rhannu rhywfaint o bethau a oedd wedi tynnu fy sylw:-
Yn wir i chi, chefais i mo fy siomi yn Sioe Flodau Tatton yr RHS eleni. Arddangoswyd gwledd o harddwch i’r llygaid ganddynt, ochr yn ochr â hudoliaeth naturiol nodweddion gwledig yr arddangosiadau a gyflwynwyd, a oedd yn cyfuno cydweithrediad, addysg a chynaliadwyedd mewn un lle – perffaith! Mae’n anhygoel pa mor drawiadol y gall gwaith plannu a thirlunio fod o ran creu amgylchedd croesawgar, a chyfrannu tuag at feddalu tirweddau caled yng ngolwg ymwelwyr.
Ar ôl ymweliad llawn croeso arall ag Arcêd Burlington yn Llundain, sy’n hardd iawn, roedd yn bleser ac yn anrhydedd cael fy nhywys o amgylch y lle yn bersonol, gan y Prif Fedel (‘Head Beadle’) a fu’n gwasanaethu yno am y cyfnod hiraf erioed, sef Mark Lord. Mae’n darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a thrafodwyd popeth, o’r iwnifform, i ddigwyddiadau dethol, i arddangosion, a hyd yn oed lipstig a wneir at chwaeth y cwsmer - ni fydd Arcêd Burlington fyth yn methu â chyflawni! Mae gwasanaeth cwsmer rhagorol o’r pwys mwyaf o ran cynnal teyrngarwch cwsmeriaid – ac, erbyn hyn, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae hwn yn rhywbeth hanfodol i’w feistroli.
Wedi’i leoli gyferbyn â Gorsaf Tottenham Court Road, ceir Outernet London, sy’n drawiadol iawn. Cyn gynted ag y byddwch yn mynd i mewn, fe gewch eich trochi mewn arddangosfa hudolus o sain a gemau rhyngweithiol. Gyda mynediad yn rhad ac am ddim, a rhywbeth i bawb (gan gynnwys y rhai bach), mae’r profiad hwn yn gwneud defnydd creadigol a modern o’i leoliad. Mae’n ddiddorol i’w wylio, neu gymryd rhan ynddo, neu gellir hyd yn oed ymlacio yno!






Canolfan Siopa – y tu ôl i’r llenni yn yr haf…
Yn y diwydiant canolfannau siopa, dyma’r adeg o’r flwyddyn pryd y bydd pawb yn mynd ati gyda’i gilydd i fynd i'r afael â chwarter prysuraf y flwyddyn. Mae’r gair hwnnw sy’n dechrau gyda ‘N’ yn destun sylw y rhan fwyaf o’r flwyddyn, ond rŵan ydy’r adeg y ceir y paratoadau terfynol, pryd y gwneir pob ymdrech i gwblhau’r manylion ychwanegol hynny ar gyfer y Nadolig, o ran digwyddiadau, ymgyrchoedd marchnata, pwy fydd yn gwneud beth o fewn y siopau ac yn rhoi’r cwbl ar waith. Gwelsom erioed bod yr haf, yn enwedig mis Awst, yn adeg wych o’r flwyddyn i wneud yr addasiadau olaf – gan weithio ar y cyd â’r tîm creadigol a Chysylltiadau Cyhoeddus i gau pen y mwdwl, ynghyd â mireinio holl hudoliaeth yr Ŵyl a chynllunio sut i’w gwireddu’n berffaith. Mae rhwystrau’n anochel wrth gwrs, ond mae gallu gweithio ymlaen llaw ac ar y cyd fel tîm cryf yn golygu y gellir eu goresgyn, gyda phrofiad, a chynllun B, C, neu hyd yn oed Ch, wrth gefn 😊
Y newyddion a’r barnau diweddaraf ym maes manwerthu
Ar ôl darllen adroddiad yr FSB, ‘The Future of the High Street’, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, roedd ambell bwynt yn gofyn am sylw yn fy marn i. Roedd yn ddiddorol gweld yr ystadegau a’r argymhellion a gyflwynwyd i gefnogi bywiogrwydd ein strydoedd mawr. Dywed 47% o fusnesau bach y stryd fawr mai cynnydd mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ydy’r risg mwyaf i’w stryd fawr. Mae hon yn ganran uchel iawn, sy’n peri gofid. Mae troseddu’n broblem gynyddol yng nghanol ein trefi, o ran ein canolfannau siopa a’n manwerthwyr. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi defnyddio sawl strategaeth gyda’r bwriad o geisio lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a mynd i'r afael â’r problemau hyn. Ond, gydag ychydig iawn o adnoddau, a’r pwysau diddiwedd ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae hyn yn sialens go iawn. O’m mhrofiad i, mae’n gwbl hanfodol i ffurfio partneriaeth ragweithiol o randdeiliaid i leihau effaith negyddol troseddu, a’i wrthsefyll. Mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ym maes manwerthu yn un o’r bygythiadau mwyaf i ganol ein trefi – ac mae’n rhaid gweithredu.
Yn nhermau creu lleoedd ac adfywio cynaliadwy, yn sicr, rwy’n credu bod angen dull mwy rhagweithiol a chydweithredol o fynd i’r afael ag unedau gwag. Mae angen cael data, fel manylion cysylltu perchnogion, maint unedau o ran troedfeddi sgwâr, ynghyd â’u cyflwr, er mwyn cael gwybod pwy ydy’r landlordiaid a beth ydy eu hamcanion. Ond mae angen strategaeth glir hefyd, o ran creu cyfleoedd ar gyfer eu defnyddio – ac er mwyn gwneud i hyn ddigwydd yn gymharol gyflym. Mae cymorth ariannol i fusnesau gymryd unedau drosodd yn hollbwysig, ac mae grymuso a galluogi entrepreneuriaid ifanc i ragori a ffynnu mewn amgylchedd manwerthu bythol newidiol yn hanfodol, wrth i ofynion cwsmeriaid a’u hymddygiad yn newid.
Wrth i’n strydoedd mawr ganolbwyntio mwy ar y profiad na’r siopa, mae’n hanfodol i ffurfio partneriaeth gref rhwng cymdeithasau twristiaeth a’r stryd fawr. Mae hyn nid yn unig yn llwyfan gref i sicrhau rhagor o gymorth o ran marchnata, ynghyd â chyhoeddusrwydd ar gyfer busnesau’r stryd fawr, ond yn gyfle i fynd ati mewn modd effeithiol i sbarduno cynnydd yn niferoedd y siopwyr, trwy fanteisio ar ddiwylliant, hanes, yr economi brofiadau a’r cynnig cyffredinol o ran twristiaeth. Trwy weithio ar y cyd â darparwyr llety, theatrau, y sector hamdden, digwyddiadau a gweithredwyr bwyd a diod, ceir llwyfan i gefnogi nid yn unig yr economi yn ystod y dydd, ond gyda’r hwyr ac yn y nos, gan wneud ein trefi a’n dinasoedd yn lleoedd atyniadol i ymweld â nhw a byw ynddyn nhw.
Geiriau doeth…
Gan fy mod yn credu’n frwd mewn grymuso pobl ac annog y genhedlaeth nesaf i ffynnu a llwyddo, bydd rhan o fy mlog yn gorffen bob amser gyda rhywfaint o eiriau doeth:
• Dywedwch ‘ie’ i bob dim, a sylwch ar bopeth. Nodiadau, nodiadau, nodiadau.
• Yn sgil pob gwrthodiad, ceir rhywbeth cadarnhaol bob amser. Gofynnwch am adborth, dysgwch, a rhowch gynnig arni unwaith eto.
• Darllenwch rywbeth bob dydd, a sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae gwybodaeth yn arf pwerus.
Tan y tro nesaf,
Medi