Pam Mae Marchnadoedd yn Bwysig: yr effeithiau economaidd a diwylliannol ar drefi

Mis Medi ydy un o fy hoff fisoedd o’r flwyddyn. Y newid o ran y tymhorau, haf bach Mihangel, ynghyd ag ymdeimlad bod pethau’n dod i drefn unwaith eto.

Mae mis Medi a Hydref yn gyfnodau pwysig yn y calendr hefyd, o ran gweithgareddau’r cynhaeaf. Mae’r Pythefnos Bwyd Prydeinig, sy’n rhedeg hyd at y 6ed o Hydref, yn rhoi sylw da bob amser i farchnadoedd a gwyliau sy’n gydrannau annatod o’n strategaethau adfywio.

Ar ôl dros 17 mlynedd o lansio ac adfywio marchnadoedd, gan weithio gyda channoedd o gynhyrchwyr a masnachwyr ar hyd a lled y DU, a chael profiad personol o weld y modd y gall strategaethau llwyddiannus greu lleoedd ffyniannus, yn fy marn i, mae marchnadoedd yn ffactor arwyddocaol yng nghyswllt adfywio canol trefi.

LLWYDDIANNAU:

Mae hanes marchnadoedd a’u llwyddiant yn hen stori. Beth am atgoffa ein hunain o ddau o’r busnesau mwyaf dylanwadol a llwyddiannus a ddechreuodd yn y lle cyntaf fel stondinau marchnad. Ym 1899, agorodd Wm Morrison stondin wyau a menyn, a dechreuodd ei fusnes ym Marchnad Rawson, Bradford, ac ym 1884, daeth cyd-sylfaenydd M&S, Michael Marks, i ogledd Lloegr, a llwyddodd i gael stondin ym Marchnad Kirkgate yn Leeds. Fel yr ydym yn gwybod bellach, daeth y ddau wedyn yn weithredwyr manwerthu llwyddiannus. Yn fwy diweddar, beth am roi cydnabyddiaeth hefyd i Dunelm, Poundland, Superdry a’r Arglwydd Alan Sugar am ddechrau eu busnesau ar stondinau marchnad, ac mae bob un o’r rhain wrth gwrs yn entrepreneuriaid adnabyddus.

AMRYWIAETH:

Mae natur amrywiol marchnadoedd yn benagored. Mae gennych y model traddodiadol, fel marchnadoedd wythnosol a Marchnadoedd Ffermwyr, ac yna enghreifftiau mwy teilwredig fel marchnadoedd Gwneuthurwyr a marchnadoedd Crefftau. Rhywbeth sy’n dod yn fwy a mwy poblogaidd ydy’r ffaith bod cwsmeriaid yn dymuno siopa’n fwy lleol, yn fwy moesegol a chynaliadwy, ac mae gallu prynu gan y cynhyrchydd neu’r gwneuthurwr yn uniongyrchol yn cyd-fynd â hyn.

Mae tueddiadau mwy newydd yn ein harwain tuag at weld marchnadoedd bwyd stryd, marchnadoedd ‘vintage’, uwchgylchu a marchnadoedd hen bethau yn ymddangos yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd – gyda phob un yn cynnig rhywbeth diddorol, ynghyd â phrofiad bywiog i gwsmeriaid.

Bydd marchnadoedd tymhorol fel marchnadoedd Nadolig, marchnadoedd cynhaeaf, a blodau, yn boblogaidd bob amser, ond byddant hefyd yn creu gweithgarwch, bywiogrwydd, cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr, ynghyd ag ymdeimlad o gymuned.

Y peth da am farchnadoedd ydy, os oes gennych y seilwaith, mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd.

ARLOESI:

Mae stondinau marchnad yn gyfle go iawn i annog a sbarduno arloesedd, i brofi’r farchnad a chasglu ymchwil i’r farchnad. Mae 57% o fusnesau bach ar y stryd fawr yn dweud bod amrywiaeth eang o fusnesau bach yn bwysig o ran dyfodol y stryd fawr [1] ac mae annog hyn yn hanfodol.

Mae stondinau marchnad yn fecanwaith risg isel a chost isel i fentrau newydd a busnesau gael masnachu, ac mae angen grymuso’r cyfle hwn.

Gall cyfleoedd omnisianel ragori yn y cyswllt hwn hefyd, a gan ein bod yn disgwyl i fanwerthu ar-lein farweiddio ar 25%, ceir galw mawr am fanwerthu wyneb yn wyneb [2], a gwir angen amdano. 

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi lansio nifer o ‘farchnadoedd pobl ifanc’ lle mae myfyrwyr ysgol yn cael y cyfle i fasnachu mewn marchnadoedd byw, i annog arloesi, craffter ym myd busnes, ac i’w grymuso. A gyda’r nifer uchaf o entrepreneuriaid wedi’u cyhoeddi yng Nghymru eleni, mae arloesi yn gyfrwng y dylid manteisio i’r eithaf arno.

MARCHNATA:

Mae pŵer marchnata yn gyfrwng i drawsnewid unrhyw fusnes, mawr neu fach. O ran marchnata digidol, mae sawl cyfle ar gael bellach i greu ymwybyddiaeth o farchnadoedd a’u hyrwyddo ar lefel leol a rhyngwladol, a hynny am ddim. Mae platfformau marchnata digidol yn galluogi busnesau i ymgysylltu â chwsmeriaid newydd a phresennol, ynghyd â dadansoddi data’n effeithiol a rhannu hanesion a chynnydd busnes mewn amser real.

Edrychwch ar lwyddiant SpudVan, a oedd wedi mynd yn feirol. Roedd dros 44 miliwn o bobl wedi ei hoffi ar TikTok, ac roedd wedi hybu nifer yr ymwelwyr ac economi’r dref yn ystod mis Ionawr distaw – ac mae hyn wedi digwydd unwaith eto, yn Preston y tro hwn, gyda’r Spud Brothers.

Mae angen i farchnadoedd a masnachwyr ddefnyddio pob platfform marchnata sydd ar gael iddynt – ac os ydynt yn ansicr o ran sut i farchnata eu hunain, a’u gallu i wneud hynny, mae hyfforddiant yn sicr o fod ar gael fel arfer.

Mae cymryd rhan mewn ymgyrchoedd Marchnata Lleoedd, a chael sylw yn eu sgil, yn fodd effeithiol i gael cyhoeddusrwydd hefyd.

I ddysgu rhagor am farchnata digidol a’i buddion i fusnesau, tiwniwch i mewn i’m podlediad sy’n lansio y mis hwn.

EFFAITH:

Mae’r effaith y gall marchnadoedd ei chael ar dref neu ganol dinas yn enfawr! Mae’n sbarduno rhagor o ymwelwyr, mae’n diogelu traddodiadau a diwylliant, mae’n annog cynaliadwyedd, ac yn hybu rhyngweithiad cymdeithasol. Ond, heb amheuaeth, mae’r effaith fwyaf yn deillio o’i gallu i gefnogi a thyfu’r economi leol.

 

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi trawsnewid nifer o farchnadoedd darfodedig yn hybiau llwyddiannus lle mae’r dref gyfan, gan gynnwys busnesau presennol, yn cael budd aruthrol. Rwyf wedi datblygu marchnadoedd llwyddiannus yn Wyliau Bwyd a Diod blynyddol yng nghanol trefi mawr, sy’n denu dros 50,000 o bobl dros benwythnos, ac wedi croesawu masnachwyr llwyddiannus i unedau ar y stryd fawr, neu wedi cefnogi eu hymdrechion i ehangu eu busnes i ddau neu dri o leoedd ychwanegol.

Mae’n ddiddorol gweld cynnydd o +31.7% o ran marchnadoedd, +8% o ran pobyddion, +12.5% o ran siopau delicatessen, a +67.6% o ran siopau groser.

Mae galwadau cwsmeriaid yn esblygu’n barhaus. Mae’n bwysig i siopwyr ar hyn o bryd allu prynu gan rywun sydd wedi chwarae rhan uniongyrchol mewn creu neu brosesu cynnyrch. Mae dilysrwydd ac unigrywiaeth yn dal i fod yn brif ystyriaethau o ran penderfyniadau cwsmeriaid.

Mae gan effaith marchnad ffyniannus nifer o fuddion cymdeithasol ac economaidd. Trwy sicrhau’r strategaeth iawn, ynghyd â dulliau marchnata effeithiol, cefnogaeth i fusnesau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae’r cyfleoedd yn gyffrous.

MESUR LLWYDDIANT:

Ceir sawl modd i fesur marchnadoedd llwyddiannus, fel nifer y masnachwyr yn y farchnad, eu rheoleidd-dra, a hefyd faint o bobl sy’n ymweld â’r farchnad. Mae mesurau pellach yn cynnwys casglu adborth uniongyrchol gan y masnachwyr ynghylch y fasnach fusnes, a hefyd busnesau brics a morter yn y cyffiniau. Ond, un o’r heriau o ran marchnadoedd ydy’r defnydd o arian parod. Felly, er mwyn mesur buddion economaidd anuniongyrchol yn yr ardaloedd lleol ehangach, gellid dadansoddi gwariant â chardiau trwy gymharu diwrnodau marchnad gyda diwrnodau pryd nad oes marchnad, i gasglu gwerthusiad economaidd gwell o farchnad lwyddiannus. 

Ar grwydr:

·     Trinny, Trinny, Trinny – ar ôl bod yn ffan mawr ers blynyddoedd lawer, roedd yn bleser cael ymweld â’r siop flaenllaw newydd ar y Kings Road yn ystod diwrnod ei hagoriad swyddogol ar 11eg Medi. Mae’r ychwanegiad ffyniannus a llawn egni hwn, sydd erbyn hyn yn barhaol, yn stori lwyddiant ryfeddol ar ôl perfformio’n well na’r disgwyl fel siop dros dro. Gwych!

·     Llongyfarchiadau i’r tîm a’r gwirfoddolwyr yng Ngŵyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug a gyflwynodd ddigwyddiad arbennig yng nghanol y dref. Mae hon yn enghraifft dda o gynhyrchwyr o ansawdd uchel yn arddangos beth sydd ganddynt i’w gynnig i gwsmeriaid o bob man, gan hybu’r economi ac amlygu’r Wyddgrug fel tref farchnad hanesyddol.

·     Roedd trip diweddar i Genefa yn drawiadol a didrafferth. Roedd y ddinas hardd hon, a chanddi gysylltiadau da, yn dangos pa mor effeithlon y gall rhywle weithio, a hynny oll gan roi lle blaenllaw i iechyd, arloesedd a chynaliadwyedd.

 

Geiriau o ddoethineb y mis hwn:

  •  Camwch y tu allan i’ch man cyfforddus, dyna pryd rydych yn tyfu.

  •  Y ffordd gyflymaf i lwyddo ydy dechrau rŵan.

  • Cynnydd, nid perffeithrwydd.

 

 Tan y tro nesaf,

Medi


[1] FSB (2024). The Future of the High Street. https://www.fsb.org.uk/resource-report/the-future-of-the-high-street.html

[1] Rudlin, D., Payne, V., & Montague, L. (2023). High Street: How our town centres can bounce back from the retail crisis. Routledge.

Previous
Previous

Cyfrif y Dyddiau tan y Nadolig: Pam mai mis Tachwedd ydy dechrau cyfnod prysuraf y flwyddyn i fanwerthwyr a chanolfannau siopa.

Next
Next

MPW – y 90 diwrnod cyntaf