Adolygiad Masnachu Nadolig 2024: Diwedd cryf i flwyddyn heriol   

Daeth Nadolig 2024 â chymysgedd o optimistiaeth gofalus a thwf cyson ar gyfer cryn dipyn o’r sector manwerthu. Tra bo’r hinsawdd economaidd yn dal i fod yn heriol oherwydd pwysau costau byw, roedd cyfnod y Nadolig wedi cyflawni canlyniadau cryfach na’r disgwyl i lawer o fusnesau, ar sail gostyngiadau cynnar, siopa drwy brofiadau, a’r galw cynyddol am gynaliadwyedd, gwerth am arian ac ansawdd. 

 

Perfformiad o ran Gwerthiannau Nadolig 2024: 

Mae adroddiadau cyffredinol gan sawl manwerthwr yn dangos y bu perfformiad o ran masnachu dros Nadolig 2024 yn gryf, ac y cyflawnwyd twf o gymharu â’r flwyddyn gynt. Fe gafodd hyn ei sbarduno’n bennaf gan wariant cynnar, perfformiad cryf o fewn sectorau allweddol, ac ymddygiad cwsmeriaid a oedd yn dangos mai ansawdd, nid nifer, sy’n bwysig. 


Archfarchnadoedd:

Roedd Aldi wedi adrodd eu Nadolig gorau hyd yma, gyda chwsmeriaid yn siopa’n gynharach nag erioed, gan brynu pwdinau a chacennau Nadolig mor fuan â mis Medi, a chafwyd galw cryf am eu cynhyrchion premiwm. 

Roedd Lidl wedi adrodd cyfnod masnachu dros y Nadolig a oedd yn torri pob record, gyda Tesco yn cyhoeddi eu Nadolig gorau erioed, gyda chynnydd o +4.1% mewn gwerthiannau cyfatebol yn y DU, a +4.8% yng Ngweriniaeth Iwerddon. Unwaith eto, yn dilyn y duedd dros y Nadolig am ansawdd, roedd Tesco yn adrodd bod galw mawr am eu ‘Finest Range’ a’u ‘Chef’s collection’. Cyhoeddodd Sainsburys hefyd eu ‘Nadolig mwyaf erioed’, gyda chynnydd o +3.8% yn eu gwerthiannau (yn y chwe wythnos hyd at 4ydd Ionawr). Yn wahanol i Aldi, roedd Sainsbury’s yn honni y bu cwsmeriaid yn siopa’n hwyrach y Nadolig hwn, ac yn adrodd eu gwerthiannau gorau erioed yn y diwrnodau hyd at y Nadolig. Fodd bynnag, yn unol ag archfarchnadoedd eraill, cyhoeddodd Sainsbury’s bod galw mawr ymhlith cwsmeriaid am eu dewis o gynhyrchion premiwm ‘Taste the Difference’, gan gyflawni twf o +16%.

Wrth edrych ar werth am arian, o ran manwerthwyr a chwsmeriaid, roedd Morrisons wedi ehangu faint o gynhyrchion oedd yn cyfateb â rhai Aldi a Lidl o ran pris, ac roedd Asda wedi gostwng prisiau miloedd o gynhyrchion. Mae hyn yn awgrymu bod Morrisons ac Asda yn cydnabod arwyddocâd gwerth am arian o safbwynt y cwsmer, ac wedi gorfod rhoi newidiadau ar waith i gadw’n gystadleuol. 

Doedd Marks & Spencer yn ddim gwahanol o ran eu perfformiad dros y Nadolig, gan eu bod yn adrodd Nadolig ‘da’, o ganlyniad i gynnydd o +8.7% o ran gwerthiannau bwyd,  a chafwyd cynnydd o +14% o ran eu dewis o gynhyrchion rhesymol (‘value range’).

Mae’n amlwg, wrth adolygu’r sector archfarchnadoedd, y bu eu perfformiad dros y Nadolig yn gryf, ac roedd gwir alw ymhlith cwsmeriaid am ansawdd, gwerth am arian a gwasanaeth. Roedd manwerthwyr yn cydnabod hyn ac, o ganlyniad, wedi cynllunio a rhoi camau ar waith i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol. 

 

Manwerthwyr Eraill:

Roedd nifer o fanwerthwyr eraill yn cyhoeddi perfformiad cryf o ran masnachu dros y Nadolig, gan gynnwys rhai fel Next, The Cotswolds Company a Card Factory. 

Roedd gwerthiannau Next y tu hwnt i’r disgwyliadau yn y cyfnod hyd at y Nadolig, gyda chynnydd o +6% o ran gwerthiannau pris llawn, o gymharu â’r cynnydd rhagamcanol o +3.5%. Cyhoeddodd The Cotswold Company hefyd gynnydd o +22% mewn gwerthiannau, gyda thwf o +13% o ran e-fasnach o un flwyddyn i’r llall, ynghyd ag ymchwydd o +66% yn nifer y cwsmeriaid a oedd yn ymweld â’u siopau. Cyhoeddodd y Card Factory hefyd godiad o +4.7% o ran refeniw ym mis Tachwedd a Rhagfyr, unwaith eto, ar sail sylw ar ansawdd a gwerth am arian, a sbardunwyd yn bennaf o ganlyniad i agor 32 o siopau newydd ychwanegol. 

Tra bo manwerthwyr eraill hefyd, fel Boots, Barbour, ProCook, Greggs, Dunelm, Curry’s, White Stuff, Topps Tiles, Very UK a The Fragrance Shop i gyd wedi cyhoeddi cyfnod masnachu cryf, nid dyma oedd hanes pob manwerthwr. 

Cyhoeddodd JD Sports, Shoe Zone a Poundland eu bod oll wedi cael cyfnod masnachu anodd o ran perfformiad y Nadolig hwn, gan honni mai ‘amodau heriol y farchnad’ oedd gwraidd hyn. Sbardunwyd hyn yn bennaf o ganlyniad i gynnydd o ran gweithgareddau hyrwyddo ymhlith cystadleuwyr, ac roedd gwendidau o ran dillad a nwyddau cyffredinol yn cyfrannu at hyn. 

Siopa Ar-lein o gymharu â’r Stryd Fawr:

Yn ôl data gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain (BRC) ynghyd â’r dadansoddwyr yn Sensormatic, cafwyd gostyngiad o 2.2% ym mis Rhagfyr yn nifer y cwsmeriaid mewn canolfannau siopa, parciau manwerthu a strydoedd mawr yn y DU, o gymharu â’r un cyfnod yn 2023. 

Er mai dim ond un o sawl platfform i fesur perfformiad ydy data o ran niferoedd y cwsmeriaid, mae hyn yn awgrymu bod y niferoedd hyn yn dal i fod yn her, a chynghorir bod angen gwybodaeth ychwanegol o ran perfformiad masnachu i ddarparu dadansoddiad llawn a manwl.

Mae’n bosib bod tywydd garw wedi chwarae rhan, gan y cafodd sawl digwyddiad eu canslo yn ystod y Nadolig o ganlyniad i Storm Darragh ddechrau mis Rhagfyr.

Wrth adolygu gwerthiannau mewn siopau ar-lein, ochr yn ochr â rhai brics a mortar, cyhoeddodd EVRI eu bod wedi danfon y ‘niferoedd mwyaf erioed o barseli’ yn ystod adeg fasnachu brysuraf y Nadolig. Eu cyfnod mwyaf oedd yr wythnos ar ôl ‘dydd Gwener du’, pryd y danfonwyd 24.7 miliwn o barseli, sef cynnydd o +20.8% o gymharu â 2023. Cyhoeddwyd eu Nadolig gorau erioed hefyd, a’r rheiny wedi torri pob record wrth ddanfon 173 miliwn o barseli yn y 9 wythnos hyd at 28 Rhagfyr 2024, sef cynnydd o +12% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Mae hyn yn awgrymu’n gryf bod siopa ar-lein wedi perfformio’n well na’r disgwyl o ganlyniad i alw mawr. 

 

Y rhagolygon ar gyfer 2025:

Amcangyfrifir ‘Centre for Retail Research’ y bydd 17,350 o siopau’n cau yn 2025, wrth i’r cynnydd uchel o ran cyfraniadau yswiriant gwladol a’r cyflog byw cenedlaethol ddod i rym o fis Ebrill ymlaen. 

Ond, er yr ystadegau anobeithiol (sydd dim ond yn amcangyfrifon yn unig ar hyn o bryd) mae llawer o weithgaredd cadarnhaol ar y gweill o ran strydoedd mawr yn 2025. Yn ôl hynny a nodir yn y Retail Gazette, mae’r isod yn rhannu dim ond rhai o’r manwerthwyr a fydd yn ehangu eu presenoldeb ar y stryd fawr yn 2025: 

1. The Range: bydd yn agor 10 archfarchnad newydd bob mis yn 2025, gan addasu 70 o safleoedd Homebase. 

2. Co-op: bydd yn agor 75 o archfarchnadoedd newydd ychwanegol, a fydd yn cynnwys 25 o leoliadau newydd a weithredir gan Co-op. Maen nhw’n bwriadu ailwampio cyfran o’u hunedau presennol hefyd. 

3. Holland & Barrett: mae’n bwriadu agor 50 o siopau ychwanegol. Yn 2024, gwariwyd £70 miliwn ganddo ar y gwaith o ailwampio 280 o siopau, ac agorwyd 35 o safleoedd newydd. Mae o hefyd yn bwriadu ehangu ei gynnig o ran ‘siopau mewn siopau’ gyda Tesco, ynghyd â lansio partneriaeth gyda Next. 

4. Waterstones: mae’n bwriadu agor 12 o siopau newydd. 

5. B&Q: bydd yn agor rhagor o siopau ar sail fformat lleol. 

6. Aldi: bydd yn buddsoddi £650 miliwn arall yn ystadau ei siopau, ac mae’n bwriadu cael 1,500 o siopau yn y DU, gyda 30 o siopau newydd yn agor eleni. 

7. Lidl: mae’n bwriadu agor 40 o siopau newydd eleni, gan anelu at gael ystad o 1,100 o siopau. 

8. Gymshark: bydd yn agor 3 uned arall eleni. 

9. Jo Malone: mae’n bwriadu agor 8 siop newydd yn 2025, gan dargedu trefi marchnad. 

10. Sephora: bydd yn agor 20 o siopau newydd ledled y DU.

11. Sainsbury’s: bydd yn agor 20 o archfarchnadoedd newydd, a thua 25 o siopau cyfleustra dros y 15 mis nesaf. 

12. B&M: mae’n bwriadu agor 45 o siopau newydd, ac o ran ei ystad, mae’n anelu at gael portffolio o 1,200 o siopau ledled y DU. 

 

Mae hwn yn ddarlun cadarnhaol, sydd nid yn unig yn arwydd o hyder, ond yn dangos bod manwerthwyr yn gweld y rhain fel amgylcheddau hanfodol o ran meithrin cymunedau a brandiau. Mae hyn yn cefnogi’r farn y gall cyfryngau masnachu ffisegol ac ar-lein gydfodoli, a ffynnu gyda’i gilydd. 


Casgliad:

Roedd Nadolig 2024 yn profi bod sector manwerthu’r DU yn dal i fod yn gadarn yn wyneb adfyd. Roedd manwerthwyr a oedd yn buddsoddi mewn ansawdd, gwasanaeth a gwerth yn perfformio’n dda, a’r rheiny a oedd yn ymchwilio’n ddyfnach i arloesedd, cynaliadwyedd a phersonoli’n elwa, hyd yn oed ymhlith ansicrwydd economaidd. 

Ar drothwy 2025, rydym yn dal i fod yn ‘eithaf gobeithiol’ wrth i lawer o fusnesau feddwl am dyfu ac ehangu i’r stryd fawr, er ansicrwydd o safbwynt economaidd. Bydd angen i fanwerthwyr barhau i fod yn greadigol, ac addasu i’r pwysau ariannol sydd arnyn nhw. Bydd ehangu cysylltiadau, a diwallu anghenion o ran disgwyliadau cwsmeriaid, sy’n newid yn barhaus, yn flaenoriaeth bob amser, nid yn unig i fanwerthwyr, ond o ran y rhwydwaith o gefnogaeth o’u hamgylch. 

 

Tan y tro nesaf, 

 Medi

Next
Next

Dechrau da i MPW wrth ‘wneud i lefydd weithio’