Dechrau da i MPW wrth ‘wneud i lefydd weithio’
Mae’r cwmni o Gymru, MPW Making Places Work, yn rhagori ar ddisgwyliadau yn dilyn ei lansiad llwyddiannus chwe mis yn ôl.
Er mai menter newydd yw MPW, cafodd ei dewis i gynrychioli Llywodraeth y DU gan yr Adran Busnes a Masnach ar ei thaith fasnach i MAPIC – cynhadledd ryngwladol dridiau o hyd a gynhaliwyd yn Cannes.
Ers ei lansiad ym mis Mai, mae Medi Parry-Williams, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr MPW Making Places Work, wedi partneru â’r sectorau preifat a chyhoeddus i arwain ar sawl prosiect, gan gynnig atebion pwrpasol i drawsnewid canol trefi a dinasoedd lleol.
Mae Medi, sy’n wreiddiol o Fôn, wedi bod yn ymwneud â sawl lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys Bangor, Ynys Môn a Sir y Fflint. Mae wedi ymgymryd â gwaith megis cynghori ar farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a strategaethau cyfathrebu, ac mae hi hefyd wedi bod yn ymwneud â chyfleoedd am bartneriaethau cyhoeddus-preifat. Yn fwyaf diweddar, penodwyd Medi gan raglen Trefi Smart Towns Cymru i gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a busnesau’r stryd fawr ledled Cymru. Bu’n dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio gwybodaeth am ddata er mwyn gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.
Yn ôl Kiki Rees-Stavros, Rheolwr Prosiect Trefi Smart Towns Cymru: “Mae arbenigedd Medi wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio cymorth busnes Trefi Smart Towns Cymru. Trwy harneisio safbwyntiau sy’n cael eu gyrru gan ddata, mae Medi wedi cynnig fframweithiau clir a gweithredadwy a fydd yn grymuso trefi a busnesau yng Nghymru i wneud penderfyniadau doethach a mwy gwybodus. Mae ei ffordd o ddadansoddi a defnyddio data yn arloesol, ac yn helpu cymunedau i ffynnu ac addasu i heriau modern. Mae cyfraniad Medi wedi gosod y seiliau ar gyfer Cymru sy’n fwy cysylltiedig, arloesol a blaengar.”
Gyda thros 15 mlynedd o brofiad yn rheoli canolfannau siopa, cafodd Medi ei dewis i weithio gyda chwmni RivingtonHark, yr arbenigwyr o Lundain ar adfywio trefol a rheoli asedau. Trwy gynnal adolygiad craff o un o ganolfannau siopa’r cwmni a chyflwyno dadansoddiad trylwyr o weithrediadau’r safleoedd hyn, llwyddodd Medi i nodi cyfleoedd i wneud arbedion effeithlonrwydd a chyflymu twf.
Dywedodd Sylfaenydd a Chyfarwyddwr MPW, Medi Parry-Williams: “Dwi wrth fy modd bod MPW wedi cael dechrau mor eithriadol. Bu’n llawer o waith caled, ond dwi’n falch o fod yn gweithio gyda sefydliadau mor wych ac mi wnaeth cynrychioli’r DU ar lwyfan ryngwladol mor gynnar yn ein taith wireddu breuddwyd. Dim ond megis dechrau yw hyn a dwi’n edrych ymlaen at weld sut fydd pethau’n datblygu. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at gefnogi ein cymunedau hollbwysig a thrawsnewid canol ein trefi a dinasoedd hoffus.”
Er mwyn helpu’r busnes gyda’i dwf a’i strategaeth hirdymor, mae bwrdd y cyfarwyddwyr hefyd wedi ehangu, gan groesawu’r arbenigwr cyfathrebu a marchnata, Alison Shipperbottom, fel Cyfarwyddwr Anweithredol.
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau y gall MPW eu cynnig, ewch i www.mpwmakingplaceswork.co.uk