Cyfrif y Dyddiau tan y Nadolig: Pam mai mis Tachwedd ydy dechrau cyfnod prysuraf y flwyddyn i fanwerthwyr a chanolfannau siopa.
Gyda mis Tachwedd wedi cyrraedd, mae manwerthwyr a chanolfannau siopa’n paratoi ar gyfer cyfnod mwyaf hanfodol y flwyddyn, pryd maen nhw’n cyfrif y dyddiau tan y Nadolig.
Mae addurniadau Nadolig, digwyddiadau i roi goleuadau Nadolig ymlaen, oriau estynedig a chynlluniau hyrwyddo arbennig i gyd ar ben y rhestr o flaenoriaethau y mis hwn, yn ogystal â gwneud elw da.
Fel rydym yn gwybod, nid dim ond nifer yr ymwelwyr sy’n bwysig yn ystod tymor y Nadolig, mae’r cyfnod hwn yn gwbl allweddol i ffyniant llawer o fusnesau. I’r mwyafrif o fanwerthwyr, mae mis Tachwedd a Rhagfyr yn cynhyrchu cyfran sylweddol o’u refeniw blynyddol oherwydd y galw am anrhegion, addurniadau, bwyd ar gyfer yr ŵyl a dillad ar gyfer partïon Nadolig. Er bod Consortiwm Manwerthu Prydain wedi adrodd bod hyder cwsmeriaid wedi gostwng yn sylweddol ym mis Medi, disgwylir y bydd cwsmeriaid yn gwario llawer, mewn siopau ac ar-lein, dros y misoedd i ddod. Felly, mae manwerthwyr a chanolfannau siopa’n gwneud eu gorau glas i ddenu siopwyr a chreu profiad hudolus.
Profiadau manwerthwyr:
I raddau helaeth, mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn un pryd y mae gweithwyr manwerthu a staff canolfannau siopa’n tynnu at ei gilydd i fynd i'r afael â phethau. Bydd llawer o fanwerthwyr yn cyflogi staff tymhorol i helpu i reoli’r mewnlifiad o gwsmeriaid, ac i gyflawni’r lefel uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid. Y mis diwethaf, roedd gweithredwyr bwyd wedi cyhoeddi ymgyrch recriwtio enfawr ar gyfer y Nadolig hwn. Cyhoeddodd Tesco ymgyrch recriwtio am 26,000 o staff tymhorol, mae Sainsbury’s yn llogi 20,000 o staff tymhorol, mae M&S wedi cyhoeddi eu bod yn cyflogi 11,000 mewn rolau ar gyfer y Nadolig, a bydd ymgyrch recriwtio Aldi yn chwilio am 3,500 o weithwyr. Mae Morrison’s wedi ymuno â’r ymgyrch hefyd, trwy recriwtio 3,000 o weithwyr tymhorol, ac mae Superdrug wedi cyhoeddi ei gynllun i gyflogi 1,000 o staff tymhorol eleni – a’r rheiny oll i gefnogi twf y cwmnïau hyn a pherfformiad cryf.
Digwyddiadau:
I mi, digwyddiadau sy’n lansio’r Nadolig a’r holl brofiad hudolus. Mae’r digwyddiadau i roi’r goleuadau Nadolig ymlaen yn nodweddu ‘lansiad’ swyddogol yr Ŵyl, ac mae o bob amser yn rhyfeddol cael gweld teuluoedd a’u plant yn dod at ei gilydd, i ymuno yn yr hwyl wrth gyfrif y dyddiau tan y diwrnod mawr. I lawer o ganolfannau siopa a thimau rheoli canol trefi, mae trefnu digwyddiadau ar raddfa fawr yn dipyn o gamp. Mae Gorsaf Bŵer Battersea bob amser yn cyflwyno digwyddiadau bendigedig a, dros y blynyddoedd, mae canol dinas Manceinion wedi ehangu ei marchnadoedd Nadolig. Yn aml iawn, mae angen arbenigedd, profiad, a chyllid allanol i greu effaith, ynghyd â phrofiad cofiadwy, a diogel, i bawb.
Ond dim ond y man cychwyn ydy’r digwyddiadau lansio’r Nadolig, ac fe’u dilynir yn aml gan farchnadoedd Nadolig, digwyddiadau sy’n creu hud a lledrith y gaeaf, ffilmiau Nadolig, lloriau sglefrio, sioeau goleuadau, bandiau pres, a chanu carolau, mae’r rhestr yn ddiddiwedd….
Mae digwyddiadau’n allweddol i unrhyw gyrchfan siopa er mwyn creu bywiogrwydd, denu ymwelwyr, cynyddu faint o amser y maen nhw’n ei dreulio yno, ynghyd â darparu ymdeimlad o brofiad i gwsmeriaid, sy’n rhywbeth na ellir ei gyflawni’n hawdd ar-lein yn ystod y cyfnod allweddol hwn. Y ffaith amdani ydy na ellir profi arogl ac awyrgylch Marchnad Nadolig a digwyddiad i roi goleuadau Nadolig ymlaen yr un fath ar-lein.
Addurniadau:
Mae gan addurniadau Nadolig y pŵer i drawsnewid rhywle’n gyfan gwbl, trwy greu awyrgylch cynnes ac atyniadol yr Ŵyl. Gall arddangosiadau ysblennydd greu argraff go iawn, a gallant ddenu ymwelwyr o bob man. Gall arddangosiadau traddodiadol a modern gael yr un effaith, os ydynt yn cael eu gwneud yn dda – a gall goleuadau chwarae rhan fawr yn hyn. Anogir lleoedd i beidio â chynilo gormod wrth gynllunio eu haddurniadau, yn enwedig pan ellir eu defnyddio i drawsnewid ac amlygu cyrchfan, creu ymwybyddiaeth o frand a hybu teyrngarwch cwsmeriaid. Cymrwch olwg ar addurniadau Nadolig Stryd Regent a Fortnum and Mason. Byddwch yn greadigol, yn wahanol, a gwnewch sbloet go iawn ohoni!
Marchnata:
Mewn amgylchedd sy’n esblygu drwy’r amser, mae angen i fanwerthwyr allu ymgysylltu â gwahanol fathau o gwsmeriaid, â chyllidebau amrywiol. Mae ymgyrch farchnata gref yn ystod y chwarter euraidd yn allweddol, mae llawer o ganolfannau siopa a manwerthwyr yn gwario cyfran fawr o’u cyllideb yn ystod y chwarter hwn.
O’r 7fed o Dachwedd, dylem ddechrau gweld hysbysebion Nadolig disgwyliedig y manwerthwyr adnabyddus ar y teledu, sydd â’r prif nod o ddenu cwsmeriaid i mewn i’w siopau. A gan fod y Nadolig ar ddydd Mercher eleni, ceir cyfnod mwy cyfleus ac addas i siopa am yr hanfodion munud olaf ychwanegol hynny.
Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber:
Er mai rhywbeth o’r Unol Daleithiau ydy hyn, mae Dydd Gwener Du yn dal i dyfu yn y Deyrnas Unedig. [1]Yn 2023, daeth y gwerthiannau ar Ddydd Gwener Du i gyfanswm aruthrol o £13.3 biliwn, sy’n gynnydd o +7.3% o’r flwyddyn flaenorol. Mae dadansoddiad pellach o’r gwerthiannau hyn yn y Deyrnas Unedig yn dangos y ffigurau a ganlyn:
· Gwerthiannau ar-lein: £4.81 biliwn
· Gwerthiannau mewn siopau: £3.93 biliwn
Mae Dydd Gwener Du yn gyfle gwych i fusnesau:
1. Hybu gwerthiannau
2. Denu cwsmeriaid newydd
3. Clirio stoc
A gyda chwyddiant parhaus, argyfwng costau byw, a chyhoeddiadau anodd gan y Llywodraeth newydd o ran y gyllideb, mae siopwyr yn fwy a mwy sensitif i brisiau pethau. [2]Yn y Deyrnas Unedig, roedd dros hanner y siopwyr (52%) yn dibynnu mwy ar gynlluniau hyrwyddo oherwydd pryderon ariannol, a’r rhagolygon ar gyfer eleni ydy bod 63% yn credu eu bod yn dal i allu dod o hyd i brisiau gostyngedig os ydyn nhw’n chwilio digon.
Tra bo 72.3% o siopwyr yn defnyddio cymysgedd o siopa ar-lein a mynd i mewn i siopau i brynu pethau, mae mentrau Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber yn gyfleoedd ffantastig i fanwerthwyr annog cymaint o siopwyr â phosib, sydd wedi prynu rhywbeth ar-lein, i’w gasglu yn y siop. Mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd da i greu profiad yn y siop, ynghyd ag ennill cwsmeriaid newydd a’u hannog i brynu rhywbeth gwell neu ychwanegol.
Yn ôl yr arbenigwraig marchnata, Fiona Briggs, y [3]prif anrhegion y Nadolig hwn ydy:
1. Dillad ac ategolion: 69.9%
2. Teganau a gemau: 59%
3. Llyfrau ac amryw gyfryngau: 47%
4. Dyfeisiau electronig: 28.9%
Mae profiadau (50.6%) a chardiau anrheg (57.8%) yn dal i fod yn ddewisiadau poblogaidd, gyda chynaliadwyedd, hygyrchedd a chyfleustra yn chwarae rolau annatod hefyd mewn llywio gwariant cwsmeriaid.
Siopa’n Lleol:
A rhaid i ni beidio ag anghofio siopa’n lleol a chefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn. Mae busnesau annibynnol yn gwarchod hunaniaeth ac iechyd economaidd ein strydoedd mawr. Ac mewn arolwg diweddar gan High Street Positives, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Find Out Now, amlinellwyd bod 53% (o’r 53,000 a arolygwyd), eisiau gweld rhagor o siopau annibynnol yn eu hardaloedd lleol. Felly, beth am fynd ati nid yn unig i ddathlu ‘Dydd Sadwrn y Busnesau Bach’, ar y 7fed o Ragfyr, beth am eu dathlu a’u cefnogi drwy’r flwyddyn – a chreu arferion siopa newydd sy’n gwneud gwahaniaeth.
P’un a ydych yn un am siopa’n gynnar neu wrth eich bodd yn chwilio am fargeinion munud olaf, mwynhewch y siopa bawb!
Tan y tro nesaf,
Medi